Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Hydref 2021
Amser:
09.00 -
12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12459
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Cefin Campbell AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Ken Skates AS, Comisiynydd |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Ann-Marie Harkin Clare James Mark Jeffs Stephen Lisle Gareth Lucey Matthew Mortlock Nick Selwyn |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon – y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Craffu ar Gyfrifon - Comisiwn y Senedd 2020-21
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Comisiwn y Senedd ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21.
2.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i roi gwybodaeth ychwanegol am nifer o bwyntiau a godwyd.
3 Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i'r Adroddiad.
3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru, ynghylch yr arfer o 'dderbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor.
3.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyda'r ymatebion a gofyn inni ystyried sut y gall y ddau Bwyllgor gydweithio ar y mater hwn.
3.4 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dadl bellach er mwyn gallu trafod yr ymatebion i'r Adroddiad.
4 Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2020-21
4.1 Nododd yr Aelodau yr Adroddiad.
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eu barn ar y canllawiau diwygiedig y mae Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol yn cyfeirio atynt mewn perthynas â chymhwyso Cyfrifon y Llywodraeth.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Gyfrifon - Comisiwn y Senedd 2020-21 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a nodwyd y byddai'r Clercod yn paratoi'r adroddiad drafft.
7 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021
7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddefnyddio'r Adroddiad i lywio materion craffu ehangach.
8 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyllid Myfyrwyr
8.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd sy'n destun pryder gyda Llywodraeth Cymru wrth graffu ar y sesiynau tystiolaeth ar gyfer y Cyfrifon yn ddiweddarach yn y tymor.
9 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adfywio canol trefi yng Nghymru
9.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd unrhyw feysydd sy'n destun pryder gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y diweddariad ar COVID-19 a'r effaith ar y Grŵp Llywodraeth Leol ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr 2022.
10 Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021
10.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar lafar i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon.
10.2 Nododd y Pwyllgor yr astudiaeth.